Babel

The Tower of Babel (Genesis 11: 1-9)

Welsh (Cymraeg)


Y Beibl Cysegr Lan gan William Morgan (1588)

  1. A'r holl dîr ydoedd o un-iaith, ac o un ymadrodd.
  2. Ac wrth fudo o honynt o'r dwyrain, y cawsant wastadedd yn nhir Sinar, ac yno y trigâsant.
  3. Ac a ddywedasant bôb un wrth ei gilydd, deuwch, gwnawn briddfeini, a llosgwn yn boeth, felly'r ydoedd ganddynt briddfeini yn lle cerric, a chlai oedd ganddynt yn lle calch.
  4. A dywedasant, moeswch adailadwn i ni ddinas a thŵr, ai nenn hyd y nefoedd, a gwnawn i ni enw rhac ein gwascaru rhyd wyneb yr holl ddaiar.
  5. Yna y descynnodd yr Arglwydd i weled y ddinas a'r tŵr, y rhai a adailiade meibion dynion.
  6. A dywedodd yr Arglwydd, wele bobl yn un, ac un iaith iddynt oll, ac dymma eu dechreuad hwynt ar weithio: ac yr awrhon nid oes rwylir atnynt am ddim oll ar a amcanasāt ei wneuthur.
  7. Deuwch descynnwn, a chymmyscwn yno eu hiaith hwynt fel na ddeallio yn iaith ei gilydd
  8. Felly yr Arglwydd ai gwascarodd hwynt oddi yno rhyd wyneb yr holl ddaiar, a pheidiasant ac adailadu y ddinas.
  9. Am hynny y gelwir ei henw Babel, a blegit yno y cymmyscodd yr Arglwydd iaith yr holl ddaiar, ac oddi yno y gwascarodd yr Arglwydd hwynt ar hyd wyneb yr holl ddaiar.

Other version (1964)

  1. Un iaith ac un ymadrodd oedd i'r holl fyd.
  2. Wrth ymdeithio yn y dwyrain, cafodd y bobl wastadedd yng ngwlad Sinar a thrigo yno.
  3. A dywedasant wrth ei gilydd, "Dewch, gwnawn briddfeini a'u crasu'n galed." Priddfeini oedd ganddynt yn lle cerrig, a phyg yn lle calch.
  4. Yna dywedasant, "Dewch, adeiladwn i ni ddinas, a thŵr a'i ben yn y nefoedd, a gwnawn inni enw, rhag ein gwasgaru dros wyneb yr holl ddaear."
  5. Disgynnodd yr Arglwydd i weld y ddinas a'r tŵr yr oedd meibion dynion wedi eu hadeiladu,
  6. a dywedodd, "Y maent yn un bobl a chanddynt un iaith; y maent wedi dechrau gwneud hyn, a bellach ni rwystrir hwy mewn dim y bwriadant ei wneud.
  7. Dewch, disgynnwn, a chymysgu eu hiaith hwy yno, rhag iddynt ddeall ei gilydd yn siarad."
  8. Felly gwasgarodd yr Arglwydd hwy oddi yno dros wyneb yr holl ddaear, a pheidiasant ag adeiladu'r ddinas.
  9. Am hynny gelwir ei henw Babel, oherwydd yno y cymysgodd yr Arglwydd iaith yr holl fyd, a gwasgarodd yr Arglwydd hwy oddi yno dros wyneb yr holl ddaear.

Information about the Welsh language
Welsh language courses, dictionaries, etc.

Other languages

Afrikaans, Albanian, Alsatian, Amharic, Anglo-Saxon, Arabic, Aragonese, Aramaic, Armenian, Aromanian, Asturian, Basque, Bengali, Bislama, Bosnian, Breton, Bulgarian, Burmese, Catalan, Cebuano, Chinese, Chin Falam, Chin Haka, Chin Tedim, Church Slavonic, Cornish, Croatian, Czech, Danish, Dawan, Dutch, English, Estonian, Faroese, Farsi/Persian, Finnish, French, Frisian, Fulani, Gaelic (Manx), Gaelic (Scottish), Galician, German, Greek (Ancient), Greek (Modern), Greenlandic, Haitian Creole, Hausa, Hebrew, Hindi, Hungarian, Icelandic, Indonesian, Italian, Japanese, Kannada, Kekchi, Korean, Ladino, Latin, Latvian, Lithuanian, Macedonian, Malay, Malayalam, Maori, Mongolian, Ndebele, Norwegian, Nuer, Papiamentu, Polish, Portuguese, Romanian, Russian, Sakao, Serbian, Slovak, Slovenian, Spanish, Swahili, Swedish, Syriac, Tagalog, Tamasheq, Tamil, Thai, Tigrinya, Turkish, Tuvaluan, Ukrainian, Urdu, Vietnamese, Welsh, Xhosa, Yiddish, Zarma, Zulu

Support this site - make a donation

Copyright 1998- Simon Ager