Canu caneon yn y Gymraeg

Heddiw fe ddes i o hyd i ddau wefanau diddorol iawn:

CanuDrosGymru.com
Pwrpas y wefan hon ydy dod â chaneuon Cymraeg at sylw y Cymry di-Gymraeg – ond os bydd yn atgoffa ambell Gymro neu Gymraes am ein hetifeddiaeth gerddorol, gorau’n y byd!

Codi Canu – Ystafell Ymarfer
Eich siop-un-stop i ddysgu caneuon newydd gyda’r corau, neu ail-ddysgu hen ganeuon i berfformio ar eich teithiau i gemau’r 6 gwlad! Mae darnau’r Soprano, Alto, Tenor a bas yma i chi, felly peidiwch oedi.

Today I came across a couple of interesting websites:

Sing4Wales.com
A website that includes the a number of well-known Welsh songs with their lyrics and videos of people singing them. It’s designed to encourage those unfamiliar with these songs, or who have forgotten them, to (re)learn them. Quite a few of the videos seem to be Siân James singing the songs and accompanying herself on the harp – hyfryd!

Codi Canu – Rehearsal Room
Includes a small selection of Welsh songs with recordings of their tunes, Soprano, Alto, Tenor and Bass parts with an online practice tool, and recordings of the words being spoken so that you can get to grips with the pronunciation.

One thought on “Canu caneon yn y Gymraeg

  1. fel bachgen bychan mwy na hanner canrif a deg ynnol byddai y pobol yn y cyfardal yn cael noson lawen yn fy nghartref yn Gaernarfon. Roedd fy nhad yn arwainwr llwyddiant o barti o rhiw tri deg a codi cannu yn Seilo bach .Cannu roedd yn ei ‘waeud. Chwarelwr oeddo ac nid oedd wedi cael lawer o addusg ac methu darllen music ac felly defnyddio ‘doh ray me’ i ddysgu plant i gannu ar nos fercher yn y Band of Hope . Oherwydd fy mod wedi golli fy mam pryd roeddwn tua un ar ddeg rwyf yn cofio dechrau pennill o gan sydd yn dechrau ” O dwed wrth mam fy mod yn dod ….. ” a oes rhwyn drosodd yn Gymru yn cofior geiriau neu os oes rwyn yn ei chanu ai recordio. Esgusodwch fy Nghymraeg os gwelwch chin dda oherwydd rwyf wedi bod yn byw i ffwrdd ers pryd roeddwn yn un ar pymtheg ac y mae’r iaith rydych yn siarad heddiw yn tramorth i mi.Cofion gorau alwyn Zealand Newydd

Comments are closed.