Rwsieg

Yn ystod mis Tachwedd a mis Rhagfyr eleni dw i’n canolbwyntio ar Rwsieg. Dw i’n dysgu’r iaith efo languge101.com, cwrs arlein sy’n defnyddio ‘spaced repitition system’ neu system ailadroddiad ar wahan. Mae’r cwrs yn addysgu brawddegau Rwsieg efo recoriadau araf a recordiadau cyflymder normal. Yn gyntaf mae o’n gofyn yn Saesneg sut i ddweud rhywbeth yn Rwsieg, ac yna ti’n dweud y frawddeg, os ti’n ei gwybod hi. Yna ti’n gwrando yr ateb ac yn dweud wrth y system os ti’n gwybod y frawddeg yn berffaith, yn dda, yn eitha da, ayyb. Mae’r system yn dy brofi ar yr un frawddeg ar ôl rhyw munudau, ac yna ar ôl cyfnodau hirach a hirach i atgynerthu dy goffa.

Dyma tipyn bach o Rwsieg:

Здравствуйте = Helô / Shwmae (ffurfiol)
Привет = Helô / Shwmae (anffurfiol)
Как ваши дела? = Sut ydych chi?
Как дела? = Shwmae? Ti’n iawn?
Oткуда вы? = O ble ydych chi’n dod?
Oткуда ты? = O ble wyt ti’n dod? (inf)
Я из … = Dw i’n dod o …
Очень приятно = Mae’n dda gen i gwrdd â chi / Neis cwrdd â chi

Mae mwy o frawddegau a recordiadau (gan siaradwr Rwsieg brodorol) ar gael ar: Omniglot, ac mae ychydig o wersi Rwsieg yng Nghymraeg (trwy cartwnau) ar gael ar: Caterpillar and Red Post Boxes.

Dyma Geiriadur Rwsieg-Cymraeg-Saesneg-Llydaweg-Gwyddeleg dw i’n newydd darganfod.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *