Yr Wyddfa

Ddydd Mercher yr wythnos hon mi wnes i dringo’r Wyddfa am y tro cyntaf. Roedd hi’n heulog a gynnes, roedd ychydig o niwl a’r y mynyddoedd, ac roedd gwynt ysgafn yn chwythu ar y copa. Mi es i ar y bws i Lanberis yn gyntaf, ac ar ôl crwydro o gwmpas y lle am sbel, mi wnes i dal y bws i Ben-y-pass.

Golygfa i lawr Llwybr y Mwynwyr

Yn dilyn Llwybr y Mwynwyr, ac yn aros am damaid o fwyd ar lan Llyn Llydaw, mi wnes i cyrraedd y copa o fewn dwy awr. Wrth i mi dringo rhan serthach y llwybr, ro’n i’n teimlo yn flinedig ac yn meddwl fydda i’n mynd i lawr y mynnydd ar y trên, ond mae’r tocyn yn ddrud iawn – £18 am docyn un ffordd – ac nag oedd tocynnau ar gael beth bynnag, felly mi wnes i penderfynu cerdded i lawr.

Golygfa o gopa'r Wyddfa

Roedd y copa yn tyrru efo torf mawr o bobl, ac roedd y golygfeydd yn ysblennydd, er gwaetha’r niwl. Ar ôl saib byr, a rhywbeth i fwyta ac i yfed, mi wnes i ailddechrau efo mwy o ynni, ac ro’n i’n ôl yn Llanberis trwy’r Llwybr Llanberis o fewn awr a hanner. Roedd mond ychydig o funudau i aros am y bws yn ôl i Fangor.

Golygfa i lawr Llwybr Llanberis ar yr Wyddfa

Mae mwy o ffotograffau ar gael ar flickr.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *