Ddoe es i i Fanceinion efo’r Côr Cymunedol Bangor i gymryd rhan mewn Canu am Ddŵr y Gogledd neu Sing for Water North. Daeth tua 300 o bobl o gorau o ogeledd-orllewin Lloegr a gogledd Cymru efo’n gilydd i ganu ac i godi pres am yr elusen Wateraid. Mi adawon ni Fangor am 8 o’r gloch y bore ac aethon ni mewn coets i Fanceinion.
Ar ôl cyrraedd yn Manceinion, mi dreulion ni y bore yn ymarfer yn y neuadd mawr yn neuadd y dre – neuadd ac adeilad syfrdanol efo acwstig gwych. Ar ôl tamaid o ginio, dechreuodd y berfformiad tu allan neuadd y dro yn Sgwar Albert efo côr o Fanceinion yn canu dwy gân, ninnau yn canu dwy gân, ac yna pawb yn canu efo’n gilydd. Wrth i ni gorffen y gân olaf, mi gyrhaeddodd y parêd Dydd Manceinion.
Pan cyrhaeddodd y parêd aeth hi yn swnllyd iawn yn y sgwar ac mi dihangon ni i Starbucks am banaid a sgwrs. Yna aeth rhai ohonon ni i oriel celf Manceinion, ac yna mi aethon ni gatre.
Mae fideos y perfformiad ar gael ar YouTube.