TOP

Yr Wyddfa

Ddydd Mercher yr wythnos hon mi wnes i dringo’r Wyddfa am y tro cyntaf. Roedd hi’n heulog a gynnes, roedd ychydig o niwl a’r y mynyddoedd, ac roedd gwynt ysgafn yn chwythu ar y copa. Mi es i ar y bws i Lanberis yn gyntaf, ac ar ôl crwydro o gwmpas y lle am sbel, mi wnes i dal y bws i Ben-y-pass.

Golygfa i lawr Llwybr y Mwynwyr

Yn dilyn Llwybr y Mwynwyr, ac yn aros am damaid o fwyd ar lan Llyn Llydaw, mi wnes i cyrraedd y copa o fewn dwy awr. Wrth i mi dringo rhan serthach y llwybr, ro’n i’n teimlo yn flinedig ac yn meddwl fydda i’n mynd i lawr y mynnydd ar y trên, ond mae’r tocyn yn ddrud iawn – £18 am docyn un ffordd – ac nag oedd tocynnau ar gael beth bynnag, felly mi wnes i penderfynu cerdded i lawr.

Golygfa o gopa'r Wyddfa

Roedd y copa yn tyrru efo torf mawr o bobl, ac roedd y golygfeydd yn ysblennydd, er gwaetha’r niwl. Ar ôl saib byr, a rhywbeth i fwyta ac i yfed, mi wnes i ailddechrau efo mwy o ynni, ac ro’n i’n ôl yn Llanberis trwy’r Llwybr Llanberis o fewn awr a hanner. Roedd mond ychydig o funudau i aros am y bws yn ôl i Fangor.

Golygfa i lawr Llwybr Llanberis ar yr Wyddfa

Mae mwy o ffotograffau ar gael ar flickr.

Read More
TOP

Laa ruggyree

Ta mee nane as daeed bleeaney d’eash jiu, as ta my voir ayns Bangor yn jerrey shiaghtin shoh. Hie shin dys cuirrey kiaull yindyssagh riyr; dee shin kirbyl ayns thie lhionney ynnydagh jiu, as hemmayd dys cuirrey kiaull elley noght. Ghow mee arrane ayns yn cuirrey kiaull riyr rish yn sheshaght chiaullee cohellooderys Bangor, agh bee mee ayns yn lught eaishtagh noght.

Breithlá

Tá mé daichead a haon bliain d’aois inniu, agus tá mo mháthair anseo i mBangor an deireadh seachtaine seo. Chuaigh muid chuig ceolchoirm iontach aréir; d’ith muid lón i dteach tábhairne áitiúil inniu, agus beidh muid ag dhul chuig ceolchoirm eile anocht. Chan mé sa ceolchoirm aréir leis an cóir pobail Bangor, ach beidh mé sa lucht éisteachta anocht.

Penblwydd

Dw i’n pedwar deg un blwydd oed heddiw, ac mae fy mam yma ym Mangor y penwythnos ‘ma. Mi aethon ni i gyngerdd wych neithiwr; mi fwyton ni ginio yn nhafarn leol heddiw, ac mi awn ni i gyngerdd arall heno. Mi ganes i yn y gyngerdd neithiwr gyda’r côr cymunedol Bangor, ond bydda i yn y cynulleidfa heno.

Read More
TOP

Tacsi a Soothsayers

Neithiwr es i’r prifysgol i glywed Tasci, band o Ynys Môn, a’r Soothsayers o Lundain. Mae Tasci yn chwarae cymysgedd o reggae, ffync, soul a blŵs ac yn canu yn ddwyieithog, ac mae’r Soothsayers yn chwarae cymysgedd o Afrobeat, reggae a dub. Roedd y gerddoriaeth yn wych ac yn gyffrous, ac roedd bron pawb yn y lle yn dawnsio.

Read More