TOP

Ceathairéad téadach

Oíche Shathairn chuaigh mé chuig cheolchoirm san ollscoil leis Ceathairéad Benyounes, ceathairéad téadach de chailíní óga bunaíodh i 2007 nuair a bhí na comhaltaí ag déanamh staidéir ar an Coláiste Ríoga Ceoil an Thuaisceart (Royal Northern College of Music) i Manchain.

Sheinn siad píosaí leis Hayden, Webern agus Beethoven, agus bhí siad go hiontach ar fad. Bhí sé cinn de na píosaí leis Webern an-ghearr, neamhthonúil agus beagán aisteach, ach dá ainneoin sin bhí siad suimiúil.

Pedwarawd llinynnol

Nos Sadwrn mi es i i gyngerdd yn y prifysgol gan Pedwarawd Benyounes, pedwarawd llinynnol merched ifanc y sefydlwyd yn 2007 pan roedd y aelodau yn astudio yng Ngholeg Brenhinol Cerdd y Gogledd (Royal Northern College of Music) yn Manceinion.

Mi ganon nhw alawon gan Hayden, Webern a Beethoven, a roedden nhw yn wych dros ben. Roedd chwech o’r alawon gan Webern yn fyr iawn, yn ddigywair ac yn ryfedd, ond er hynny roedden nhw yn ddiddorol.

Read More
TOP

Telyn a Gaita

Heno mi es i i gyngerdd wych yn y prifysgol gan Siân James, cantores a thelynores o Ganolbarth Cymru a Anxo Lorenzo, pibydd o Alisia. Roedd yn ardderchog dros ben.

Mae llais hyfryd iawn ‘da Siân, ac mae hi’n canu’r delyn a’r piano yn wych hefyd. Roedd dau ddyn yn cyfeilio hi – roedd un yn canu’r allweddellau a’r piano, ac yn canu, a roedd un arall yn canu chwibanau, y ffidil a’r accordion. Cerddorion dawnus iawn oedden nhw. A dweud y gwir, yr albwm Cymraeg cyntaf y brynes i oedd Distaw gan Siân James, ac wrth gwrando ar ei chaneuon, mi syrthies i mewn cariad gyda’r iaith Gymraeg, ac ar ôl hynny ro’n i’n awyddus i ddysgu’r iaith.

Mae Anxo Lorenzo yn dod o Alisia yng ngogledd-orllewin Sbaen. Mae e’n canu’r facpib Galisieg, neu gaita (de foles) yn yr Alisieg, a’r chwibanau. Yn cyfeilio e oedd dyn arall o Alisia sy’n canu’r bouzouki (boswcî?), a dyn o Iwerddon sy’n canu’r ffidil. Roedden nhw’n canu alawon o Alisia ac o Iwerddon yn angredadwy o dda ac yn gyflym dros ben. Mi glywes i’r facpib Galisieg o’r blaen – roedd dyn o Wcráin yn canu nhw un waith pan ro’n i’n yn Iwerddon – ond dw i erioed wedi clywed rhywun yn canu nhw mor gyflym a mor dda, ac roedd rhai o’r synau oedd yn dod oddi wrthynt yn hollol syfrdanol.

Read More